WOW Film Festival - EcoSinema

Voices from the Water - Panel Discussion

After unlocking, access instructions sent via email
Stream began September 19, 2021 3:00 PM UTC
Already unlocked? for access
£0After unlocking, you will be provided instructions to access this content externally. Need help?

This is a recording of the live event and can be acccessed for free from anywhere in the world.


If water could speak, what would it say? What do we most need to hear at this moment? Hear from divers, swimmers, researchers and activists, who will each give their unique perspective on transforming our attitudes to water.


Pe gallai dŵr siarad, beth fyddai’n ei ddweud? Beth sydd angen i ni ei glywed fwyaf ar hyn o bryd? Cewch glywed gan ddeifwyr, nofwyr, ymchwilwyr ac actifyddion, a fydd i gyd yn rhoi eu safbwyntiau unigryw ar drawsnewid ein hagweddau tuag at ddŵr.

 

Speakers / Siaradwyr:

 

Laura Owen Sanderson

Based between Snowdonia and Pembrokeshire, Laura Owen Sanderson, founder and director of We Swim Wild, uses adventure activism to highlight issues in the environment. The Waterloggers are a network of regional representatives who each look after their local stretch of water completing beach, river and lake clean ups and taking scientific samples of their local waterway that Bangor University tests for levels of microplastics and other silent contaminates.


Wedi'i leoli rhwng Eryri a Sir Benfro, mae Laura Owen Sanderson, sylfaenydd a chyfarwyddwr We Swim Wild, yn defnyddio ymgyrchu drwy antur i dynnu sylw at broblemau yn yr amgylchedd. Rhwydwaith o gynrychiolwyr rhanbarthol yw'r Waterloggers sydd i gyd yn gofalu am eu hyd o ddŵr lleol drwy fynd ati i lanhau traethau, afonydd a llynnoedd a chymryd samplau gwyddonol o'u dyfrffordd leol y mae Prifysgol Bangor yn eu profi am lefelau microplastigion a halogiadau eraill sy’n llechu’n dawel.

 


Dr Luci Attala

Taking inspiration from post-humanism, the morethanhuman move and multispecies ethnographies, social anthropologist Dr Luci Attala’s work asks the question “how does water make us human?”. Luci is currently exploring the role water plays in shaping lives in rural Kenya, Spain and Wales.


Ar hyn o bryd mae Dr Luci Attala yn rhan o dîm sy'n datblygu prosiect a gefnogir gan UNESCO i adfywio dŵr yng Ngholombia gyda phobl y Kogi. Gydag ôl-ddyneiddiaeth, y mudiad ‘morethanhuman’ ac ethnograffeg amlrywogaeth yn ysbrydoliaeth iddi, mae gwaith yr anthropolegydd cymdeithasol Dr Luci Attala yn gofyn “sut mae dŵr yn ein gwneud yn ddynol?” Ar hyn o bryd mae hi’n archwilio i'r rôl y mae dŵr yn ei chwarae wrth lunio bywydau yng nghefn gwlad Kenya, Sbaen a Chymru.

 



David Jones

David Jones represents Neptune’s Army of Rubbish Cleaners (NARC), an award winning Welsh charity that has carried out over 2000 underwater clean-ups in the UK and abroad. Run by volunteers who are passionate about having a positive impact upon the marine environment, NARC also focuses on raising awareness of the impacts and working on collaborative solutions.


Mae David Jones yn cynrychioli Neptune’s Army of Rubbish Cleaners (NARC), elusen Gymreig sydd wedi ennill gwobrau ac sydd trefnu dros 2000 o ddigwyddiadau glanhau tanddwr. Mae NARC, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy'n frwdfrydig dros gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd morol, hefyd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o sbwriel morol a gweithio gydag eraill sy’n defnyddio’r cefnfor ar atebion cydweithredol. Y tu allan i NARC mae David wedi gweithio ym maes rheoli arfordirol a morol ers dros 15 mlynedd.


Mike Christie

Professor of Environmental and Ecological Economics in Aberystwyth University's Business School, Mike Christie’s work addresses a wide range of natural resource and environmental issues including both marine and terrestrial ecosystems, water quality, biodiversity, agri-environmental schemes, recreation and tourism. He examines the human welfare impacts of biodiversity loss in developing countries, with recent studies in Madagascar, Malawi, Nigeria, Ghana, Rwanda, Indonesia, Bangladesh, the Solomon Islands and the Caribbean.


Mae gwaith Mike Christie yr Athro Economeg Amgylcheddol ac Ecolegol yn Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth, yn mynd i’r afael ag ystod eang o faterion adnoddau naturiol ac amgylcheddol gan gynnwys ecosystemau morol a daearol, ansawdd dŵr, bioamrywiaeth, cynlluniau amaeth amgylcheddol, hamdden a thwristiaeth. Mae'n archwilio effeithiau colli bioamrywiaeth ar les dynol mewn gwledydd sy'n datblygu, gydag astudiaethau diweddar ym Madagascar, Malawi, Nigeria, Ghana, Rwanda, Indonesia, Bangladesh, Ynysoedd Solomon a'r Caribî.



Charlotte Bates & Kate Moles

Charlotte Bates and Kate Moles are sociologists at Cardiff University. They are interested in the ways in which water binds, immerses and supports us. Their research explores the multisensory worlds of wild swimming, the ways swimmers understand wellbeing, joy and risk in the water and the bonds that are created and sustained through these encounters.


Mae Charlotte Bates a Kate Moles yn gymdeithasegwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddyn nhw ddiddordeb yn y ffyrdd y mae dŵr yn ein huno, ein trochi a'n cynnal. Mae eu hymchwil yn archwilio bydoedd amlsynhwyraidd nofio gwyllt, y ffyrdd y mae nofwyr yn deall lles, llawenydd a risg yn y dŵr a'r cydberthnasau sy'n cael eu creu a'u cynnal trwy'r cyfarfyddiadau hyn.



Lily Mae Kroese

Lily Mae Kroese is an animator, illustrator and wild swimmer. Led by a love of gentle storytelling and traditional techniques, Lily's work seeks to connect with people in quiet ways. Her practice varies between animations, picture books and paintings and is often research-led and collaborative.


Mae Lily Mae Kroese yn animeiddiwr, yn ddarlunydd ac yn nofiwr gwyllt. Mae’n cael ei harwain gan gariad at adrodd straeon hynaws a thechnegau traddodiadol. Mae gwaith Lily yn ceisio cysylltu â phobl mewn ffyrdd tawel. Mae ei hymarfer yn amrywio rhwng animeiddiadau, llyfrau lluniau a phaentiadau ac yn aml mae'n cael ei harwain gan ymchwil a chydweithredol.


Dr Christian Dunn


Dr Christian Dunn is Director of the Bangor Wetlands Group, an active researcher and lecturer in wetland science - in particular wetland ecology, peatland biogeochemistry, carbon sequestration and the use of constructed treatment wetlands. He is also the director of the Plastic Research Centre of Wales and has ongoing research projects looking at plastic and microplastic pollution. Christian is co founder of We Swim Wild a National movement to track and monitor levels of micro plastics in U.K waters. Dr Christian Dunn is also an award-winning environmental campaigner and public speaker. He has given three TEDx talks and regularly appears on local and national TV, radio and press publications talking about environmental and climate issues. Being a former journalist he has written for a range of leading newspapers and magazines.


Mae Dr Christian Dunn, Cyfarwyddwr Grwp Gwlypdiroedd Bangor, yn ymchwilydd gweithgar ac yn ddarlithydd mewn gwyddor gwlypdir - yn enwedig ecoleg gwlypdir, biogeocemgeg mawndiroedd, dal a storio carbon a defnyddio gwlypdiroedd triniaeth adeiledig. Mae Christian hefyd yn gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Plastig Cymru ac mae ganddo brosiectau ymchwil parhaus sy'n edrych ar lygredd plastig a microblastig. Mae Christian yn gyd-sylfaenydd We Swim Wild, mudiad Cenedlaethol i olrhain a monitro lefelau microblastigau yn nyfroedd y Deyrnas Unedig. Yn ogystal, mae Dr Christian Dunn yn ymgyrchydd amgylcheddol arobryn ac yn siaradwr cyhoeddus. Mae wedi cyflwyno tair trafodaeth TEDx ac mae'n ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a’r radio ac yn cyfrannu i gyhoeddiadau yn y wasg leol a chenedlaethol sy’n sôn am faterion amgylcheddol a hinsawdd. Gan ei fod yn gyn newyddiadurwr mae wedi ysgrifennu ar gyfer ystod o bapurau newydd a chylchgronau blaenllaw.